home.social

#teithio — Public Fediverse posts

Live and recent posts from across the Fediverse tagged #teithio, aggregated by home.social.

fetched live
  1. #Aberaeron - dwi'n deall yr anfantais o'r bws nawr. Ar heolydd troellog Ceredigion, mae'r daith yn ysgytiog! #teithio #cymru #TrafnidiaethCymru

  2. Mae'r safle bws cyferbyn â'r orsaf drên. 19 munud i aros.

    #Caerfyrddin #teithio #Cymru

  3. Arbrawf heddiw. Teithio #Caerdydd i #Aberystwyth trwy Gaerfyrddin yn lle Amwythig.

    Felly ar drên i Gaerfyrddin nawr, wedyn bws i Aber. Ar bapur, cyflymach na'r ffordd arall. Cawn weld!

    #Teithio #Cymru #TrafnidiaethCymru

  4. Trist ond falle ddim yn syndod - dyn ni ddim yn gweld pobl yn newid patrymau teithio i fod yn fwy cynaliadwy, er gwaetha'r ymdrechion.

    Dyma lun o lôn beic yng nghanol #Caerdyddd ddoe, a fel arfer, tawel iawn - fi ac ychydig o bobl eraill. Ni angen gweld gwelliannau.

    #teithio #Gwleidyddiaeth #beicio #Cymru #Wales #activetravel

    nation.cymru/news/welsh-govern

  5. Wedi debyn ebyst yn ddiweddar gan gwpl o sefydliadau sy'n rhoi cyfeiriadau i adeilad. Bron popeth am yrru a cheir, dim byd am feicio, cerdded na thrafnidiaeth gyhoeddus.

    #caerdydd #teithio

  6. Dwi'n caru mynd ar drenau, ond mae'r streiciau yn meddwl fy mod i ddim yn trefnu unrhyw deithiau.

    Pam? Achos dwi ddim eisiau trefnu gwyliau i'r teulu a phoeni am eu colli nhw oherwydd streic arall.

    Y llywodraeth a'r cwmnïau trên sy'n gyfrifol am hyn. Rwy'n cefnogi'r gweithwyr. Ond mae'n drist i golli allan ar deithiau.

    Ydych chi'n teimlo'r un ffordd?

    #teithio #trenau

  7. Do, mi wnaeth 'Wayne' fwynhau ei arhosiad yn Caban.

    Esgus/sbardun i fi ysgrifennu blogiad cyntaf ers 9 mlynedd, yn trafod llefydd 'moesegol' i aros ynddynt yng Nghymru yn ystod yr argyfwng tai.
    #Cymru #blogio #teithio
    gwenu.com/2023/08/23/rhestru-l

  8. Nôl yn y Gogs ar ôl Pasg efo teulu lawr yn y De. Bechod bod y taith yn cymryd 4 awr bob ffordd, ond o leia mae'r A470 yn harddach na draffordd. 🚗

    Back in the North after Easter with family in the South. Pity that the journey takes 4 hours each way, but at least the A470 is prettier than a motorway. 🚗

    #teithio #A470