#ieithoedd — Public Fediverse posts
Live and recent posts from across the Fediverse tagged #ieithoedd, aggregated by home.social.
-
Dwi'n caru hwn.
Ro'n i ar #Euskotren yn ddiweddar, y gwasanaeth trenau o fewn Gwlad y Basg.
Ar y sgrinau mae negeseuon i annog pobl i ddefnyddio'r iaith Fasgeg. Dyma un o'r dywediadau:
"Peidiwch â barnu'r dydd yn ôl y cynhaeaf a gynaeafwyd gennych, ond yn ôl yr hadau a blannwyd gennych"
Beth am rhywbeth tebyg yn Gymraeg, Trafnidiaeth Cymru?
-
Mae hi mor wych i weld pobl tu fas i Gymru yn dysgu ein iaith!
Yn y pennod newydd o'r podlediad, dwi'n sgwrsio gydag @israel a symudodd o Hong Kong i Fanceinion.
#Cymru #Cymraeg #DysguCymraeg #Manceinion #ieithoedd
https://richardnosworthy.cymru/2025/05/21/podlediad-hefyd-pennod-22-israel-lai/
-
Dwi'n mynd i 'clwb clonc' Ffrangeg am y tro cyntaf bore 'ma. Bach yn ofn! Ond dim ond trwy siarad ti'n dysgu.
-
Allai ymgyrch fel hyn weithio yng Nghymru?
Am dair wythnos, mae pobl yng Nghatalwnia yn cael eu hannog i beidio troi at y Sbaeneg am 3 wythnos:
-
#introduction Llyfrgellydd wedi ymddeol dw i, o Lerpwl yn wreiddiol, ond wedi byw ac yn gweithio ym Munich, yn Ne'r Almaen, ers 40 mlynedd. Dw i wrth fy modd yn dysgu ieithoedd, (yn enwedig Cymraeg, wrth gwrs - mae mynychu cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn ar fy rhestr bwced!), ac mae gen i ddiddordeb mewn popeth Cymraeg. Ga i ymddiheuro nawr am yr holl gamgymeriadau bydda i'n gwneud yma cyn bo hir, plïs? Diolch o galon! 🙏 😊
.
#DysguCymraeg
#Dysgwr
#Cymraeg
#ieithoedd
#Almaeneg
#YrAlmaen