#trafnidiaeth — Public Fediverse posts
Live and recent posts from across the Fediverse tagged #trafnidiaeth, aggregated by home.social.
-
Mae hwn yn ddatblygiad gwych. Yn fy marn i, er bod rheilffordd newydd yn bwysig yn y pen draw, mae angen newid agwedd tuag at y coets. Mewn gwledydd fel Sbaen, mae'r diwylliant bysiau pellder hir yn llawer mwy positif.
#trafnidiaeth #trawscymru #cymru
https://nation.cymru/feature/a-north-south-coach-service-or-reopen-the-railway/
-
Sut mae'r bws yma'n 'well'?
O beth dwi'n gallu gweld, roedd e'n arfer bod yn llwybr uniongyrchol rhwng Y Drenewydd/Llandrindod a Chaerdydd.
Nawr bydd rhaid newid ym Merthyr!
#bysiau #trafnidiaeth #Caerdydd #Powys #Llandrindod #YDrenewydd #TrafnidiaethCymru @nic
https://newyddion.trc.cymru/newyddion/gwasanaeth-trawscymru-t4-gwell-yn-lansio-1-medi -
Yn gynharach yn y flwyddyn clywsom fod y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya yng Nghymru wedi lleihau nifer yr anafusion ffyrdd o gannoedd. Mae cyfrifiad cychwynnol yn dangos bod yr arbedion ar gyfer y GIG o ganlyniad uniongyrchol hefyd yn sylweddol, bron i £4m yn y chwarter cyntaf yn unig 👏🌟💖