home.social

#tafarndai — Public Fediverse posts

Live and recent posts from across the Fediverse tagged #tafarndai, aggregated by home.social.

fetched live
  1. RE: halo.nu/@theguardian_us_opinio

    Yn y Blue Bell, Caerdydd, neithiwr roedd border collie afiaethus yn cyfarth yn uchel bob hyn a hyn, wedyn tynnwyd ei sylw gan y chwaraeon ar y bocs, roedd yn sefyll/hopian i fyny ac i lawr yn ei unfan ar ei draed ôl ar un o'r meinciau ''lledr' (pawennau blaen ar sgrin bren tu cefn i'r set), heb siw na miw gan y perchnogion na'r staff. #Tafarndai

  2. Oh, maen nhw wedi ailenwi North Star, tafarn yn ardal Maendy, Caerdydd, gan Gymreigio enw llygredig Saesneg yr ardal...
    #tafarndai #pubs #Caerdydd #Cardiff #Scymraeg

  3. Wedi dychwelyd fy mam yng nghyfraith a'r car benthyg yn ôl yn ddiogel, roedd amser i ailymweld â'r Ackhorne Inn. #Pubs #tafarndai #tafarnGerGorsaf #efrog #pubsNearStations #york

  4. Wedi bod i ddwy dafarn stryd gefn ffein ar gyrion canol dinas Efrog heno.
    Ackhorne Inn: pren ymhobman, sgwrsio blaengar, cerddoriaeth amrywiol.
    Golden Ball: tafarn gymunedol, orlawn i'r cwis efo'r rownd gerddoriaeth yn cael ei ddarparu gan y cwisfeistr yn chwarae acordion a gazoo. Cwsmeriaid yn cyrraedd ar feics.
    #tafarndai #pubs #Efrog #York

  5. @calendr Do'n i ddim yn siwr ble mae Tafarn y Castell, ond ymddengys bod y Con Club yn Ninbych wedi'i ailfrandio fel y Castle Arms #Dinbych #Tafarndai camra.org.uk/pubs/castle-arms-

  6. Petai chi eisiau (fyddwch chi ddim), gallwch wylio pêl-droed yn yr awyr agored yng ngardd gwrw gefn y Cricketers. Peint da o Jemima Pitchfork, £5.20 (rhatach os ydych yn regular, fel o'n i nos Sul ymddengys). #tafarndai #pubs #Caerdydd

  7. Cofnod blog difyr sy'n trafod ieithwedd, diwylliant, dirwest, cynllunio trefol, deddfu, snobyddiaerh, chwiw y dydd yng nghyd-destun bariau UDA. Mae mewn ymateb i gofnod ar flog arall yn trafod pwysigrwydd (honedig) tafarndai i fywyd pobl Prydain a sut neu os dylid eu gwarchod.
    beervanablog.com/beervana/2026

    Diolch @beervana
    #tafarndai #pubs

  8. Yn ailymweld â thafarn Park Place, Rhuthun, am y tro cyntaf ers mwy na 13 mlynedd. Mae'r dewis cwrw casgen wedi gwella - London Pride (£4.99), DHB Facer's (£3.95 ond yn setlo) a chwrw gwadd (hefyd yn setlo).
    #pubs #tafarndai #rhuthun

  9. Ocê, efallai dyma'r pun enw gwaethaf ers i fi ddewis 'Cwrwgydiwr' fel enw defnyddiwr ar Untappd, ond dyma flog da am dafarndai, gydag ambell gofnod am drefi'r canolbarth (Y Borth a'r Trallwng) a rantio heb ei ail (o dan cyfres 'The rules of the pub'). #tafarndai #pubs
    beer-aeth.blogspot.com/

  10. Trafferthion lanlwytho lluniau, felly dyma rhoi cynnig ar rhain i ddangos pa mor blentynnaidd ydw i. #tafarndai #pubs

  11. Wedi dod i Tadcaster i weld sut siâp sydd ar dafarndai Sam Smiths wedi i Hwmffre adael am yr "Employment tribunal in the sky"chwedl un hen wag. Y tri agosaf at faes Tadcaster Albion ar gau, ond mae'r Royal Oak dros y bont yn dafarn hen ysgol o'r iawn ryw. Mae arwyddion (a matiau cwrw) 'Dim rhegi' a 'Dim ffonau' yn britho'r lle o hyd. Ar yr egwyl, Taddy 2-3 Bridlington Town. Pris mynediad £5 (am ei bod yn gêm gyfeillgar, £8 fel arall). #tafarndai #pubs #groundhopping

  12. Am wylio'r hanner cyntaf efo peint (pale, Selby in Summer), ond does dim llawer o awch gan bobl Cawood, Swydd Efrog. Fi a thri arall yn ei wylio yn y Jolly Sailor, a'r teledu "ddim yn gweithio" yn y Ferry Inn. #tafarndai #pubs #WorldCup

  13. Os ydych yn hoffi talu nesaf peth at €6 am hanner peint, mae gennyf lot o tips i chi.

    Ond dwi'n meddwl mai fy nhafarn olaf yn Nulyn yw fy hoff un, sef Harty's. Yr unig le des ar draws cwrw casgen, ac am ddim ond €5 y peint (ond yn gynnig arbennig, dod at ddiwedd ei oes o bosib, ond yn iawn er y gwres). Lle 'normal' er ei leoliad gyferbyn â Phrifysgol y Drindod ac yng nghanol y miri.
    untp.beer/yy9z0
    #tafarndai #Dulyn #Dublin #Pubs

  14. Mae bach fel Wythnos yng Iwerddon Fydd yn y Pádraig Pearse heddiw - ei ddarlun wedi diflannu a'r locals gyd ar lager, nid Guinness fel ddoe. Ond mae bwlch ble dylai banner Lloegr fod yn y bynting, felly popeth yn normal. #Dulyn #Dublin #Tafarndai #pubs

  15. Wedi canfod tafarn "leol" normal yng nghanol Dulyn, Pádraig Pearse, ger yr orsaf sy'n dwyn enw'r cawr. Tro cyntaf i mi glywed Gwyddeleg yn cael ei siarad, gan ddau gwsmer. Un ohonynt yn dweud bod y ddynes tu ôl bar yn rhugl, ond mae'n rhy swil. Murlun o gynharach bore 'ma yn ardal y dociau. #Dulyn #Gaeilge #tafarndai #pubs #Dublin

    GOL. James Connolly sydd yn y murlun wrth gwrs...

  16. Dydy'r bobl sy'n meddwl bod tafarndai Joule's bach rhy quaint heb fod i'r Royal Oak, Wrecsam. Dynes tu ôl bar o bosib wedi dechrau tân mewn bin efo stwbyn ei mwgyn a ddim am y tro cyntaf o'i hymateb. Y cwrw gwadd, Harvest Ale, £4.50 y peint, neis iawn. #Tafarndai #Wrecsam #pubs

  17. Ac wedyn cael gwasanaeth Cymraeg yn Magic Dragon. Fy acen wrth ymateb "No, I just look a nerd" i'r cwestiwn "Are you Camra?" yn ddigon I'm bradychu. Caws a cracyrs am ddim a cherddoriaeth heriol iawn -beth well? £2.50 am hanner o Best. #tafarndai #wrecsam #pubs

  18. Fy ymweliad cyntaf (er cywilydd) â Saith Seren yn bach o anticlimax - dim cwrw casgen, yn bwysicach dim gwasanaeth Cymraeg (er yn ymddiheuro a chywilyddio er na wnes ffys), a radio masnachol Saesneg ymlaen. Os keg, mae Hobgoblin IPA yn reit neis. Biti bod y lamp ymlaen ar gyfer fy llun yn y bar. Kudos i'r sticer Mynediad am Ddim yn y bogs.
    #tafarndai #wrecsam #pubs

  19. @nic Bues i yna ar fy ymweliad diwethaf â Llundain. Wel dwywaith, achos gadewais fy het yno syth ar ôl cyrraedd Llundain, ac roedd y staff caredig wedi gafalu amdani nes roedd hi'n amser mynd adre. Ro'n innau hefyd yn hoffi naws y lle o ran y cwrw, y staff a'r adeilad (sy'n pontio steil bar a thafarn yn ddidrafferth)
    Rhaid edrych allan am weddill tafarndai'r cwmni. #pubs #tafarndai #Llundain

  20. Diweddariad ar bris peint o Guinness yn y Clive (gweler uchod am brisiau blaenorol).
    Mehefin 2026: £5.50.
    Dydy hi ddim amlwg ar beth aeth y £350,000 ar gyfer y refurb.
    #tafarndai #caerdydd #cardiff #pubs

  21. Y Victoria Park yn llawn ar gyfer ffeinal Cwpan Europa, ond mond fi ac un hen foi ar y Brains Bitter, er dal yn dda. Gan mai mond tua peint pob pythefnos dwi'n yfed yna, bai neb ond fi fydd hi os stopian nhw ei werthu. #tafarndai #Caerdydd #Cardiff #pubs

  22. RE: toot.wales/@rhysw/116013403931

    Wel, wel, yn amlwg eisiau cadw lan 'da'r Jonesiaid, (y Victoria Park gerllaw), mae'r Clive yn cael refurb (arall!).

    "The Clive Arms in Canton, Cardiff is a much‑loved sports‑led community pub about to undergo a full refurbishment in 2026. The refresh will elevate every aspect of the venue, introducing a new pizza offer, enhancing the long bar known for great‑value beers and revitalising the games area with pool and multiple dart throws." #tafarndai #caerdydd #Cardiff greenekingpubs.co.uk/pubs-to-l

  23. Wedi dweud wrth fy mrawd-yng-nhyfraith, sy'n byw yn Seland Newydd bellach, nad yw Tetley's cask yn beth cyffredin mwyach, dwi newydd gael peint yn yr Hand, Dinbych. 'Rioed wedi bod yno o'r blaen--tybio byddai'n ryff am ryw reswm (wel, rhagrith at bobl Stryd Henllan gerllaw debyg). Mae'n reit ddymunol, pawb yn gyfeillgar, a bwyd ar gael, sy'n anghyffredin (ddydd na nos) yn nhafarndai'r dre. Criw mawr o laslanciau (dan oruchwyliaeth) cwrtais yn gwylio Maniw. #pubs #Denbigh #tafarndai #Dinbych

  24. Carpenters Casnewydd yn llawn cefnogwyr Caernarfon yn dathlu. 99.9% o yfwrs y ddinas yn siarad Cymraeg.
    #pubs #tafarndai #casnewydd #newport #Bass

  25. Ddim yn licio cymryd bwrdd mawr i fyny â'r dafarn yn prysuro amser cinio, felly wedi mynd i'r Red Lion i wylio ail hanner gêm Wrecsam i aros i Weird Dad agor. Tawel iawn yn y local yma. Butty Bach (£2.15 am hanner) a London Pride ymlaen.
    #pubs #newport #tafarndai #Casnewydd

  26. @calendr Bues am grwydr o gwmpas Wrecsam bore 'ma a gweld y poster uchod ac ambell un arall yn ffenest MDBT. Roedd poster Mandela FX (Psychedelic / Garej / Roc) yn apelio ataf a newydd wrando arnynt rwan. #tafarndai #pubs #wrecsam #caws #cerddoriaeth #Wrexham

  27. Dwi'n gwybod eich bod chi'n ysu i weld y Victoria Park ar ei newydd wedd. Dio ddim 'cweit' mor wael ac oeddwn wedi ofni, ond mae wedi colli lot o seddi cyfforddus sydd ddim yn grêt i gwsmeriaid hŷn, sef % uchel o'u selogion. Methais dynnu llun y prif ardal. #Cwrw dal yr un fath. #Pubs #tafarndai #Caerdydd #Cardiff

  28. ..ac felly dyma ddod ar draws Ship, Rotherhithe. Mae'n dafarn 'ystad dai' ond heb y to fflat a gyda dau gwrw gasgen. Wrth gwrs, roeddwn dan deimlad y cwrw, ond gwirioniais gyda'r lle. Tafarn un ystafell mawr efo bar siâp U, landlady Gwyddelig hen fasiwn (er r'un oed a fi), cwsmeriaid dosbarth gweithiol llawn rhegi ac yn gwrth-hiliol gwrth-imperilaidd rhonc yn ôl eu sgwrs...

    #pubs #tafarndai #llundain

  29. Es i ymlaen i Anspach a Hobday, lle mae'r staff yn fwy serchus a ddim yn ploncio'r card reader o'ch blaen ac yna'ch anwybyddu (er dwi'n hanner parchu hynny a ddim yn licio gorseboni). Mae eu Black yn nitro stout efo blas - rhywbeth gallai Guixnesx ddysgu ohono. #pubs #tafarndai #llundain.

  30. Yn Mash Paddle Brewery ar ddechrau fy crôl haneri ar y Bermondsey Mile. Mae'n debyg gwna'i lwyddo canllath. Ro'n eisiau mynd i'r Kernal, ond roedd yn llawn dop a braidd yn slic. Fan'ma yn siwtio fi'n well, er keg yn unig. Lagyr Fienna gan Thornbridge. #cwrw #pubs #tafarndai #llundain

  31. Sylwais fod fy 'local' ar gau heddiw a bod tipyn o waith yn cael ei wneud. Er mai ar gyfer gwylio pêl-droed mae 50% a mwy o fy ymweliadau yno, mae hyn yn swnio'n wirioneddol uffernol. £345,000 i ddifetha rhywle. #tafarndai #caerdydd #cardiff #pubs wales247.co.uk/popular-canton-

  32. Yn gweithio fy ffordd yn araf drwy dafarndai canolog yr Amwythig. Mae'r Dolphin yn chwe munud o fras gamu o'r orsaf. Mae'r Pale gan Joule's yn ffefryn cadarn gennyf. Johnny Cash, Massive Attack, Radiohead yw'r gerddoriaeth gefndir. £4.60 am beint. #tafarnGerGorsaf #tafarndai #pubs #yrAmwythig #Shrewsbury

  33. Mae'r Victoria Park yn llawn Gogs, ond bwrdd o ddynion Kerdiff go iawn yw'r unig rai'n neidio a bloeddio pan mae Wrecsam yn sgorio achos maen nhw wedi gosod bet arnynt ac yn gobeithio cael cyri am ddim wedi'r gêm. #pubs #tafarndai #MastodonFC #WRENFO

  34. Cystadleuwyr ar sbesial dolig y Weakest Link (thema 'tafarn') ddim yn mynd â'u gwydrau gwag nôl at y "bar" yn y stiwdio wrth fynd am ddiod arall rhwng rowndiau. Diffyg etiquette #tafarndai #pubs

  35. "Tafarn answyddogol, didrwydded oedd hon. Heb falio llawer am bapurau swyddogol, doedden nhw ddim yn gwerthu cwrw yno – roedden nhw yn ei rannu am ddim.

    Ond roedd yn rhaid ichi brynu bara ceirch gyda phob peint – a phris peint oedd y bara ceirch wrth gwrs"

    bbc.co.uk/cymrufyw/erthyglau/c

    #tafarndai #pubs #hanes #Cymraeg

  36. CW: Cwrw

    Bues yn ormod o snob i dywyllu bar Miss Jones, Canton cyn hyn, ond hapus i weld dewis o IPA keg, am DDIM OND DWY BUNT y peint. Gyda chwrw casgen yn fwy prin yn Vikky P ganol wythnos, debyg mai yma dof i wylio pêl-droed ar y teledu. Mŵs Piws yn yr oergell. #pubs #tafarn #tafarndai #Caerdydd # #Canton #Treganna

  37. Pawb (blaw fi) eisiau yfed yn yr haul, felly dwi wedi bachu bwrdd yn y cysgod yng ngardd gwrw ddyrchafedig y Vaults, yr Amwythig. (Llun i ddilyn)
    #TafarnGerGorsaf #PubsNearStations #pubs #tafarndai #Tafarn

  38. Sut na wyddwn i bod (neu roedd) eitem Tafarn y Mis ar raglen Heno? Mae Welsh Whisperer yn galw heibio, mwydro efo locals, cyflwyno cwpan fechan, ac yn canu iddyn nhw. Falle wna i adolygiad o bob fideo, yn nodi sawl yfwr mewn siaced hi-viz, oes mobility scooter wrth y drws, ac a welais bwmp cwrw go iawn. youtube.com/playlist?list=PLHV #Tafarndai #Pubs #S4C #Cymraeg

  39. Am ymweld â Chaer (am y tro cyntaf mewn chwarter canrif) ac efallai Henffordd (tro cyntaf erioed) heddiw. Unrhyw dips #tafarndai, diwylliant, caffis, siopau (y drefn honno) dwtwyr?

  40. Loggerheads, #YrAmwythig. Tafarn hynafol, gyda hatsh, sawl ystafell fechan, tân nwy (neu ddau), a chwrw da, wrth gwrs, a digon i ddewis o'r gasgen. #tafarndai #pubs

  41. Wedi dod i'r Flute & Tankard i flasu'r cwrw (Hudson's Porter gan Brew York), ond y creision rhosmari a halen môr yw seren y sioe. #cwrw #caerdydd #tafarndai #pubs

  42. Pawb yn talu efo arian parod yn nhafarn y Tavistock, #Caerdydd. Y staff yn meddwl am ffyrdd i hyrwyddo'r #cwrw go iawn. 1876 gan Glamorgan Brewing yn flasus er mai mond fi sy'n ei yfed amser cinio. #tafarndai #pubs

  43. Gwasanaeth #Cymraeg a sylwebaeth Gymraeg ar y bocs yn y Victoria Park, #Caerdydd #tafarndai #pubs

  44. O'r traddodiadol i'r modern (o ran arddull mewn yr adeilad o leiaf.) Mae Tap Ludlow Brewery, #Llwydlo yn brysur ar bnawn Llun. Cwrw da a syndod o rhesymol eto. #tafarndai #TafarnGerGorsaf #pubs

  45. Diolch i'r ffaith mod i'n drist ac yn nodi pris pob peint at Untappd, gallaf ddangos ichi effaith chwyddiant ar bris peint o Guinness mewn tafarn dwi'n ei mynychu'n achlysurol (Y Clive, Canton). #tafarndai #caerdydd #pubs
    Mai 2025 - £4.25
    Rhagfyr 2023 - £4.60
    Mehefin 2024 - £4.75

  46. "Public bars in the Carmarthen area which normally echo to the sound of popular pastimes like darts dominoes may soon be buzzing with the strange electronic noises of a new amusement machine which is currently taking the country by storm. The machine, which is called ‘Space Invaders’, has already won the seal of approval..." #tafarndai boakandbailey.com/2024/04/when

  47. Manteisiais ar gynnig arbennig i aros mewn #YHA felly #llymeitian yn nhafarndai ardal Redcliffe, #Bryste amdani cyn y gêm.

    A whirlwind tour of #BristolPubs in Redcliffe area before #groundhopping in Brislington.

    #tafarndai #cwrw

Share
Share on Mastodon

Enter the server where you have an account.