home.social

#rheilffordd — Public Fediverse posts

Live and recent posts from across the Fediverse tagged #rheilffordd, aggregated by home.social.

fetched live
  1. Cynllunio taith i #Norwich ac mae peiriant tocynnau #Caerdydd Canolog yn dangos hwn.

    Dwi'n falch i weld enwau Cymraeg, ond yn ôl Wicipedia, Northwich ydy'r Heledd-Ddu, nid Norwich...

    #Cymraeg #trenau #rheilffordd #EnwauLleoedd

  2. Wâc diddorol ddoe - gwarchodfa natur #Gilfach ger #Rhaeadr #Powys. Gallwch weld hen reilffordd Canol Cymru. Os dych chi'n teithio rhwng de a gogledd ar y #A470 mae'n lle hawdd i stopio a chael picnic.

    #cymru #cerdded #hanes #rheilffordd

  3. Ar ôl profiad gwych gyda #TrafnidaethCymru yn ystod y Steddfod, bach yn siomedig y tro yma. Dau drên gyda phroblemau toiled ar y ffordd yno. Trên wedi canslo ar y ffordd nôl i Gaerdydd, gydag oedi a gorfod newid/rhedeg yn annisgwyl.

    #trenau #rheilffordd

  4. Wâc bach hyfryd bore 'ma - wedi darganfod llwybr hen rheilffordd #Coryton #Caerdydd

    Rhaid bo fi'n mynd yn hen, ro'n i adre erbyn 9yb!

    #cerdded #MyndAmDro #rheilffordd #hanes #natur #Cymru #Cardiff