home.social

#haclediad β€” Public Fediverse posts

Live and recent posts from across the Fediverse tagged #haclediad, aggregated by home.social.

fetched live
  1. πŸ“†Ma mis Ionawr mor hir bod o'n ymestyn mewn i Chwefror ym myd yr #Haclediad, ond fydd o werth yr aros, onest!

    πŸ‘‰Haclediad.cymru/142

    😰Gweledigaeth AI Keir Starmer 😰 ban Tiktok yr UDA βž•helyntion Apple TV Iest

    Ffilmdiddim πŸ‘‰ Wonder Woman 1984 - Pedro Pascal IS Raul Julia

  2. Yn gwichian mewn o dan y llinell derfyn, mae pennod Gorffennaf o'r #Haclediad wedi cyrraedd eich podcatchers neithiwr!πŸŽ‰πŸ¦ˆπŸ‡«πŸ‡·

    Haclediad.cymru/136

    Ymunwch Γ’ Bryn, Sions a Iestyn i ddeifio i'r Seine, teithio i Mexico a malu pob terminal Microsoft welwn ni.

    Outage fawr Crowdstrike, search GPT, Archif Ddarlledu Cymru a llawer mwy fydd yn yr epig yma i chi wrando ar y traeth πŸ–οΈ

    Ffilmdiddim Olympaidd mis yma ydy 'Under Paris' - Sous la Seine... Sharks in Paris baby!

  3. **#Haclediad 134 - Paned with the Apes**

    *(Recordiwyd y bennod yma cyn implosion Cwis Bob Dydd, neu base ni di cyfro hwna hefyd!)*

    Ni'n taclo Cymru yn y Metaverse, yr ipad Crush ac enshittifiation cynnyrch Apple. Gwyliwch allan am ddial Cupertino ar Iest yn ail hanner y sioe wrth i Face Time crasho bob 5 munud πŸ˜–

    Ffilm ofnadwy y mis ydy campwaith Marky Mark "Planet of the Apes" (2001) - pwy wyddau pa mor horni allai 🦍 fod?

    Diolch i bawb sy'n gwrando a chefnogi πŸ™β€οΈ
    haclediad.cymru/134

  4. Chwefror 29?! Diwnod ychwanegol i gael #Haclediad newydd mewn i'ch clustiau!

    Haclediad #131: Ddim Cweit yn Taron 12....😬

    Byddwn ni’n mynd i’r berllan i weld be di’r ffys am yr *Apple Vision Pro*, a wedyn syllu'n gegrwth ar fideos AI diweddaraf Sora.

    Mi oedd na LOT o emosiynau cryf wrth drafod (Not your Daddy’s)* Robin Hood (2018)*, y Robin Hood gwaethaf erioed?!
    Diolch i bawb sy’n gwrando a **chefnogi** - chi werth y byd! πŸ™πŸ˜Š

    haclediad.cymru/131 neu lle bynnag chi'n cael eich podcastsπŸ‘Œ

  5. Diwedd y mis a dim #Haclediad medde chi? Anghywir! Mae Haclediad 130 allan ar pob pod-blatfform erbyn hyn!

    ✨Bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod sgandal Horizon, Gladiators, dyfais ddigidol Rabbit (ond dim honna sori), memory hole Bryn am Bwncath ac amserlennu bysus efo AI.
    ✨Mae'r ffilmdiddim yn LLANAST o gynhyrchiad gan un o feistri'r genre - Rebel Moon gan Zack Snyder😨
    πŸ‘‰ Haclediad.cymru/130

  6. Yn sneakio mewn just cyn y deadline, co' chi #Haclediad mis Tachwedd πŸ™Œ

    Gwylio Tomb Raider? βœ…
    Freaky Sneaky Airtags?βœ…
    OpenAIiii?βœ…
    Hangout hyfryd efo ffrindiau? Wastad!βœ…πŸ₯³βœ…

    πŸ‘‰Ar dy podcatcher neu Haclediad.cymru/128 rΕ΅an !

    [Diolch o galon i bawb sy'n cefnogi a gwrando innit - commentiwch neu boostiwch os chi'n licio ni, diolch! πŸ₯Ή]

  7. The Witches of Welsh Podcasting...
    #Halloween #Haclediad
    Haclediad.cymru/127

    Ma genno ni bennod mwy sgeri na climate change i chi Mis yma - neu mwy sgeri nac AI oleia😏
    Ymunwch Ò’r frightmasters eu hunain, Iestyn, Bryn a Sions i drafod y Google Pixel 8, printers (!) a sut i wneud dim byd gyda Jenny Odell 😴
    FfilmAmDdim y mis ydy The Witches of Eastwick - ffilm gwallt mawr gorau'r ganrif ddiwethaf? Gewch chi weld πŸ§™β€β™€οΈπŸ§™β€β™€οΈπŸ§™β€β™€οΈ

  8. 🎁 Anrheg sbeshal i ddechrau'r hydref - pennod NEWYDD o'r #Haclediad!

    πŸ™Hangout Podcast Cymraeg i chi bob misπŸ™

    🎬 FfilmDiDdimAmDdim! Snake Eyes: A G.I. Joe Origin Story (ar Channel 4)
    ✨Dyfeisiadau newydd Amazon/Apple/Google, you know the drillπŸ˜†
    😊 Tri ffrind yn hango mas bob mis i gadw cwmni i chi 😘

    TANYSGRIFIWCH ar eich podcatcher lleol, neu joiwch trwy'r browser fama πŸ‘‰ haclediad.cymru/126

    #podcast #podlediad #cymraeg #welsh #dysgucymraeg #learnwelsh #tech #badfilm

  9. OK bobl, mae Iestyn, Sions a Bryn yn rhoi eu hunain trwy'r profiad yma πŸ“· i ddod Γ’'r bennod nesa o'r #Haclediad i chi heno - ond be ddiawl da ni'n gwylio?!
    Wrong answers only (heblaw os da chi actually yn gwbod pa un dio πŸ˜…)
    #podcast #cymraeg

Share
Share on Mastodon

Enter the server where you have an account.