#haciaith — Public Fediverse posts
Live and recent posts from across the Fediverse tagged #haciaith, aggregated by home.social.
-
Blogio byw o eisteddfodau lleol
4 Awst
Pabell Cymdeithasau, LlandudochCatrin Angharad fydd yn dangos sut gallwch ddod â holl fwrlwm eich steddfod leol yn fyw i bawb adre, trwy luniau, fideos a newyddion.
https://calendr.360.cymru/calendr/2026/blogio-eisteddfodau-lleol
#blogio #eisteddfod #eisteddfod2026 #haciaith -
Re: Unhinged Rants y Haclediad am Y Gwaharddiad Cyfryngau Cymdeithasol
Dyn ni wedi cyrraedd eto'r pwynt Haclediad o’r mis. Rant cyntaf, yw rant galon at fy nghalon i – Y Gwaharddiad Cyfryngau Cymdeithasol. (Neu'r Prosiect Dysgu Sgiliau TG i Blant mwyaf yn y wlad.) Dwi’n gallu gweld un upside... nôl pan o’n dysgu prentisiaethau TG a pan oedd gêmio ar lein yn anodd ac oedd eisiau sgiliau rhyngweithio – ges i prentisau gyda sgiliau da jest achos oeddent nhw’n gêmwyr. Wedyn aeth pethau yn haws ac oedd eisiau dysgu nhw mwy o sgiliau rhyngweithio ar […] -
https://www.bbc.co.uk/news/business-68165762
Mae cyfeillion AI sydd â'r gallu i gynnal sgwrs gyda chi... ond PAM?!
-
A oes awydd cyd-drefnu digwyddiad Hacio'r Iaith yng Nghymru eleni, i drin a thrafod technoleg a'r Gymraeg, dangos, dysgu, mwydro a mwynhau, gyda chroeso cynnes i bawb? Gadewch wybod!
-
Os ydych chi eisiau rhedeg cwrs ar-lein (o unrhyw fath) neu os oes gennych ddiddordeb mewn e-ddysgu mae ategyn WordPress o'r enw Sensei LMS sydd yn hwyluso dysgu ar-lein.
Bellach ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf! https://wordpress.org/plugins/sensei-lms/
Diolch @meddalcom
-
Mae ChatGPT yn bwerus iawn. Bydd angen gwasanaethau tebyg yn Gymraeg, ac er mwyn eu hyfforddi nhw bydd angen corpws anferth iawn o destun Cymraeg.
-
Mae sganio a rhannu llyfrau Cymraeg yn haws bellach.
-
Heddiw fe wnes i drwsio problem gyda WordPress Cymraeg 5.8...
Bai fi oedd y broblem! (darn ar goll o ffeil wp-config-sample.php)
Os ydych chi wedi cael problem wrth osod WordPress ar weinydd mae'n werth lawrlwytho'r cod eto.
Sori. Falch bod popeth yn iawn, diolch i gydweithio'n agored gyda phobl dalentog yn y cymuned WordPress.
-
Pa ap Mastodon ydych chi'n defnyddio ar ffôn symudol? Dw i ar Tusky ar Android, ac mae'n iawn!
-
Newydd flogio am Mastodon Cymraeg yma https://haciaith.cymru/2018/11/01/meddalwedd-mastodon-ar-gael-yn-gymraeg/ #haciaith
-