home.social

#gwrandonawr — Public Fediverse posts

Live and recent posts from across the Fediverse tagged #gwrandonawr, aggregated by home.social.

fetched live
  1. Ydy Bastions dal wrthi? Ro’n i wedi anghofio mai o Gymru maen nhw.

    bastions.bandcamp.com/album/ho

    #GwrandoNawr

  2. Gwrando ar gwpl o records gan Lou Barlow brynais 10 mlynedd yn ôl, a dod ar draws y llun polaroid unigryw yma. Cafodd llun gwahanol ei gynnwys ym mhob copi o'r albym a ddaeth yn syth o'r label.

    dominomusic.com/releases/lou-b

    #GwrandoNawr #LouBarlow

  3. Spin cyntaf i record newydd Bevis Frond, ac eitha balch i fi ddeall y llinell “the same mistakes get made, like in the ‘Rs’ defence” — mae Nick Saloman yn gefnogwr brwd QPR, rhywbeth oedd brith gof ‘da fi, ond sy’n cael ei sôn amdano yn y portread hwn:

    bluematterrecords.com/your-hos

    #GwrandoNawr #TheBevisFrond

  4. Mwynhau ail-ymweld â Warrington-Runcorn, a gwrando trwy bopeth sy gyda fi mewn trefn amser, wrth i fi ddarllen.

    Mae un albym ac un EP ar goll o'r casgliad, ond mae Graham Chapman-Fox yn un da am ail-gyhoeddi pethau, felly dw i ddim yn mynd i gael fy mhemptio gan bethau wedi’u gor-brisio ar Discogs. Pwyll biau hi.

    warrington-runcorn-cis.bandcam

    #GwrandoNawr #WarringtonRuncornNewTownDevelopmentPlan

  5. Dw i ddim am symud o'r stereo nes i fi wrando ar bob record dw i heb wrando arno.

    Nesa: “Heavy Metal" gan Cameron Winter. Des i at hwn yn hwyr, ar ôl gweld Geese ar y Tiny Desk, ac wedyn eu trafod gyda fy nai 20 oed. Newydd weld sylw ar Pitchfork yn ei alw “our Tom Waits”, a dw i'n gallu gweld hynny.

    youtube.com/playlist?list=OLAK

    #GwrandoNawr

  6. Mwy o feinyl newydd, gan gynnwys Mogic gan Hen Ogledd, brynwyd o Bandcamp Rhodri Davies bwyddiwrnod - mae un copi ar ôl gyda fe!

    Ces i hwn ar CD pan ddaeth e ma’s, ond mae (bron) popeth arall y band gyda fi ar feinyl, felly mae'n braf cael hwn yn y bocs.

    rhodridavies.bandcamp.com/merc

    #GwrandoNawr

  7. Record newydd y dydd…

    Geese - Getting Killed

    Dal yn ceisio dal i fyny gyda'r pethau newydd dw i wedi prynu ers siarad â fy nai, sy'n ddylanwad drwg arna i, rhag ei gywilydd.

    discogs.com/release/35976535-G

    #GwrandoNawr #GeeseBand #vinyl

  8. Ddim yn cofio pwy wnaeth argymell hyn, ond sleisen braf o fetal dŵm seicadelig o Osaka

    #GwrandoNawr ar y CD am y tro cyntaf…

    discogs.com/release/12311052-B

  9. Megaliths In Dub - Llyn y Cŵn

    Ailwampiad dwfn o'r albym o 2024 a oedd fy mlas cyntaf ar waith Ben Powell, ac sy wedi bod yn ffefryn yma yn y misoedd diwetha. Mae hwn yn mynd â'r recordiau gwreiddiol mewn cyfeiriad tywyllach o lawer.

    coldspring.bandcamp.com/album/

    #GwrandoNawr #DarkAmbient

  10. Ailddarganfod albym oedd yn ffefryn i fi amser maith yn ôl, ond dw i heb wrando ers degawd, efallai.

    album.link/gb/i/1511977158

    #GwrandoNawr #ClaireHamill

  11. Wedi penderfynu canslo fy nhanysgrifiad i Apple Music o’r diwedd, felly dechrau atbrofi gydag ap Bandcamp. Dyma’r peth cyntaf dw i’n ei weld, a phrynu’r feinyl, och.

    #Lemonheads #GwrandoNawr

    thelemonheadsmusic.bandcamp.co

  12. Diwrnod da o wrando a darllen heddi. Wedi gorffen y nofel “James” gan Percival Everett gaethon ni i'w benthyg gan ffrind o Dalgarreg, wedyn profi fy nghlustffonau newydd ar albyms newydd i fi o restrau AOTY y llynedd, gan Jessica Pratt, a MAVI, ac nawr albym gan Chenayder. Mae popeth yn swnio mor dda yn y cans ‘ma! 🎧

    #GwrandoNawr #DarllenNawr

  13. Mynd yn ôl i ambell record prynais i 5 - 10 mlynedd yn ôl ond dal heb wrando arnyn nhw ddigon i gael blas go iawn.

    Hwn gan y band metal o Norwy, #Kvelertak, oedd yr un cyntaf off y silffoedd. Dw i'n nabod eu record diwetha yn well na hwn, a dw i’n synnu ar ba mor felodaidd yw e, mewn ffordd dda. Cymysedd difyr o leisiau eithafol, a riffs traddodiadol.

    album.link/gb/i/1099188750

    #GwrandoNawr

  14. O’r diwedd, fy hoff hashnodau yn dod at ei gilydd yn fy hoff dafarn

    #GwrandoNawr #DarllenNawr

  15. Pa mor debyg yw e mod i’n colli mas ar y feinyl o hyn os dw i’n aros tan fis Chwefror?

    Prawf difrifol cyntaf i’r addewid blwyddyn newy’

    mattberry.bandcamp.com/album/h

    #GwrandoNawr

  16. Tiwns newydd gan Rhodri Viney (Ratatosk / Right Hand Left Hand), gyda un gân Gymraeg
    ratatosk.bandcamp.com/album/1?

    #GwrandoNawr

  17. #GwrandoNawr ar un o’r cewri - ro’n i’n trafod y record hwn gyda @nigelblake wythnos diwetha yn y Pentre

    #LedZeppelin

  18. Pecyn o records newydd oddi Juno newydd gyrraedd - ac ar y Sul! Beth fasai Carys Ann yn ei ddweud?

    #GwrandoNawr ar glasur #MilesDavis o 1970, sy’n swnio cymaint yn *fwy* ar y stereo go iawn nag yw e trwy egin awyr y ffôn, neu trwy seinyddion bychain y gliniadur.

    youtube.com/watch?v=CE_crkd4fe

  19. Rhywun dw i ddim yn dod yn ôl ato’n ddigon aml, ond dyma ni’n yn #GwrandoNawr

    #StevenWilson – Grace For Drowning

    stevenwilsonhq.com/recordings/

  20. Cynaint o jazz sy’n hollol newydd i fi. Newydd geisio ordro hyn ond mae ma's o stoc gyda Juno felly dw i wedi mynd am rywbeth arall ganddi.

    Bobbi Humphrey - Blacks and Blues

    youtube.com/watch?v=8aJHrwYVz5

    #GwrandoNawr #BobbiHumphrey

  21. Wrth fy modd â’r casgliad hwn o gerddoriaeth Erika Fox, y recordiad cyntaf o’i gwaith a hithau ond yn 82. Ffeindiwyd ar hap ar Apple Classical, erioed wedi clywed amdani o’r blaen.

    erikafox.co.uk/

    #GwrandoNawr #ErikaFox

  22. Ddim yn gyfarwydd â hyn o gwbl, na bron dim byd arall o'r cyfnod cyn i Ian Gillan a Roger Glover ymuno, oni bai am ambell i drac fel “Hush”.

    Archebais i hwn gan gymryd taw dyma'u halbym cyntaf, sy’n dangos pa mor anghyfarwydd ydw i â “Mark I” - dyma'r trydydd, a'r olaf gan y lein-yp yma.

    discogs.com/master/983-Deep-Pu

    #FeinylNewydd #GwrandoNawr #DeepPurple

  23. Tynnu hen recordiau ar hap o'r casgliad, er mwyn gwrando ar bethau dw i ddim wedi eistedd gyda nhw o'r blaen.

    Ces i fy nghopi o hyn o siop Terminal Records yn Hwlffordd yn 2016, a does dim cof gen i o'r caneuon cyntaf o gwbl. Un adeg, fyddwn i wedi diawlio'r fath addfwynder, ac nawr mae'n wneud i fi grio, ond wedyn mae popeth yn wneud i fi grio'r dyddiau 'ma.

    en.wikipedia.org/wiki/Whistlin

    #GwrandoNawr #DavidCrosby #GrahamNash

  24. Sa i’n gwybod sut collais i hwn y llynedd, ond dyma “Tiny Desk" Lisa O’Neill, mis Gorffennaf 2023. Mae'r gân gyntaf, Old Note, yw un sy’n tynnu dagrau o'r hen lygaid sychion hyn.

    youtube.com/watch?v=1hMxG92KTG

    #GwrandoNawr #LisaONeill

  25. Band arall dw i heb brynu ar feinyl o'r blaen, oni bai am y sengl wnaethon nhw ar y cyd gyda Nirvana yn 1993 - The #JesusLizard

    Mae'r albym newydd hwn yn swnio'n wych, dw i'n falch mod i ddim wedi gwrando arno ar y ffôn cyn i fi gael y feinyl.

    discogs.com/release/31718570-T

    #feinyl #GwrandoNawr

  26. Wedi gosod rhwymyn gyrru newydd ar y trofwrdd am y tro cyntaf ers i ni ei brynu fe yn 2006, ac mae’n wneud byd o wahaniaeth. Dim ond o edrych ar yr hen un cyn ei roi yn y sbwriel ydw i'n sylwi pa mor wael oedd ei gyflwr - bron â bod yn torri'n llwyr.

    Dyma'r record cyntaf i gael gwrandawiad teg ar y dec yn ei newydd wedd:

    kosmischerlaufer.bandcamp.com/

    #KosmischerLäufer #GwrandoNawr

  27. ...ac wrth ddarllen, gwrando ar hwn o CD ddaeth yn y post ddoe, gan yr anhygoel Laura Cannell, y seithfed yn ei chyfres ...Lore eleni.

    #GwrandoNawr

    brawlrecords.bandcamp.com/albu

  28. #GwrandoNawr

    Luxuria - Beast Box

    Band Howard Devoto ar ôl Magazine, nid wnaeth lawer o argraff ar y byd ar y pryd, ond mae hyn yn dda iawn.

    Un o'r records o “Casgliad Owen”, sy wedi cyflwyno lot o stwff yr 80au hwyr / 90au cynnar ro'n i wedi colli ar y pryd ac sy ddim rhan o'r canon erbyn hyn.

    songwhip.com/luxuria/beastbox

  29. Ail record “newydd" y dydd, yw casgliad gwerinol hwn gan y #DarkMountainProject ffeindiais i yn Oxfam Aberteifi ddoe, mewn cyflwr perffaith. Dim ond un o’r artisitiaid (Chris Wood) sy'n gyfarwydd i fi, er i fi sylwi nawr bod Mike Mills (REM) yn canu ar un o'r traciau.

    Mae'r record yn dal ar gael o Dark Mountain am £14

    dark-mountain.net/product/from

    #GwrandoNawr

  30. #GwrandoNawr - un o’r albyms cyntaf i fi brynu ar CD yn y 2000au cynnar pan ddes i ma’s o fy ngaeafgwsg priodasol - newydd gael copi feinyl sgleiniog.

    The #BevisFrond – Valedictory Songs

    album.link/gb/i/1668021581

  31. #GwrandoNawr - Dreamhouse gan Siv Disa

    Dewis braidd ar hap o adran sêl @LogoFiasco - enw newydd i fi, a wnes i ddim gwrando ar ei Bandcamp cyn archebu, ond mae jyst y peth am nos Sul ar ôl diwrnod o chwynnu'r ardd a phendwmpian dros lyfr John Cowper Powys.

    sivdisa.bandcamp.com/album/dre

  32. #DaveEvans - Elephantasia

    Erioed wedi clywed hwn o'r blaen, ac mae’n fendigedig. Roedd yn amhosibl cael copi tan yn ddiweddar — mae copiau ail-law o'r gwreiddiol o 1972 ar discogs am £85 i tua £150 — ond mae Earth Recordings wedi’i ail-ryddhau o'r diwedd, a chipiais i gopi o @LogoFiasco yr wythnos 'ma.

    youtube.com/watch?v=1BAcTOStxI

    #GwrandoNawr

  33. Mae pennau metal Mastodon yn gwthio mwy a mwy o stwff gwych yn fy wyneb.

    Wrth fy modd gyda'r #CirithUngol newydd yma, edrych ymlaen at glywed gweddill y #JudasPriest newydd, ond dyw e ddim yn hen yskol i gyd: dw i newydd ordro copiau feinyl o stwff diweddar #BellWitch a #BloodIncantation

    #GwrandoNawr: cirithungol.bandcamp.com/album

  34. Nôl at y casgliad o feinyl #ClayPipe, a ffefryn arall, sef “Adlestrop” #GilroyMere (Pipe 025). Mae'r albym wedi'i seilio ar gerdd o'r un enw gan #EdwardThomas, a'r trac yma'n cynnwys y gerdd yn ei ghyfanrwydd.

    youtu.be/AKpWMyQmoc0?si=fK03kE

    #GwrandoNawr #feinyl

  35. Districts, Roads, Open Space
    gan #WarringtonRuncornNewTownDevelopmentPlan

    Un o’r pethau newydd (er mai ail-ryddhad yw hwn) ges i o @LogoFiasco yr wythnos diwetha, a dim ond nawr yn setlo lawr i'w wrando. Swnio'n wych ar y stereo mawr. Ces i'r fersiwn “Cymylau Duon”, sy'n bert iawn.

    warrington-runcorn-cis.bandcam

    #GwrandoNawr #Feinyl #hauntology

  36. Full Circle - The Advisory Circle

    Setlo lawr i roi gwrandawiad go iawn i hwn am y tro cyntaf ers iddo gyrraedd. Mae Cate Brooks yn mynd yn ôl at ddyddiau cynnar #GhostBox gyda ei halbym diweddaraf fel #TheAdvisoryCircle, sy’n esbonio'r teitl, mae'n debyg.

    ghostbox.greedbag.com/buy/full

    #GwrandoNawr

  37. Ail sleisen o feinyl am heno yw'r trac sain i gyfres HTV o 1977, “Children of the Stones” - ges i gopi yn y sêl gan @LogoFiasco (siop beryglus yw honna, bydd rhaid i fi fod yn ofalus)

    logofiasco.com/product/childre

    #GwrandoNawr

  38. Mark Jenkin - Enys Men, trac sain gwreiddiol.

    Heb weld y ffilm eto, ond cael blas ar yr awyrgylch trwy #GwrandoNawr ar hyn

    invada.bandcamp.com/album/enys

  39. #Mahti – Musiikki I

    "Mahti are a Finnish four-piece group presenting a unique mixture of ambient-rock, electronic music and traditional Finnish-Karelian music.”

    Anodd disgrifio, fatha drôn seicadelig. Yn cynnwys aelodau'r band Circle. #GwrandoNawr ar y feinyl am y tro cyntaf. Un i fyw gyda fe am sbel, siawns.

    riotseasonrecords.bandcamp.com

  40. Wedi cael blas ar rifyn newydd The Wire, gyda’i ffocws ar #TheFall felly #gwrandoNawr ar yr EP newydd o ganeuon o 2013, outtakes o’r albym Re-Mit - un dw i ddim yn nabod, ond fy mai i yw hwnna.

    Edrych ymlaen hefyd at wrando ar albym “House Of All”, band newydd cyn-aelodau’r Fall

    music.apple.com/gb/album/o-mit

  41. Gwrando ar album cyntaf #Pallbearer, wedi darllen amdano yn ffansîn #WeirdWalk #GwrandoNawr

    This fanzine may appeal to my mutuals on @maffknight's server - the new one includes a playlist "Doom Strolling", heavy sounds for weird walking.

    weirdwalk.co.uk/

  42. Sorto ambell i hen record sy wedi bod yn eistedd 'ma yn aros i gael eu glanhau a gwrandawiad cyntaf:

    Top of the Pops, vol. 7.

    Dyma'r cynharaf o'r gyfres dw i wedi dod ar ei draws ers i fi gael fy herio (gan @judealdridge ) i gasglu'r cyfan.

    Fersiwn gweddol o Bad Moon Rising i ddechrau. Wedi clywed lot waeth ar y stryd ac mewn tafarnau.

    Dw i wedi rhestru'r traciau i gyd yn y disgrifiad o'r clawr.

    discogs.com/master/912102-Unkn

    #GwrandoNawr #CasgluFeinyl

  43. Trial cofio i wrando ar fwy o’r records dw i’n prynu. A gyda albym #RichardDawson ar ei ffordd, dw i’n sylwi mod i ddim yn nabod yr un ‘ma yn dda eto. #GwrandoNawr

Share on Mastodon

Enter the server where you have an account.