home.social

#bbcradiocymru — Public Fediverse posts

Live and recent posts from across the Fediverse tagged #bbcradiocymru, aggregated by home.social.

fetched live
  1. Miriam Iwerydd yn sgwrsio efo band ifanc (iawn) o Fethesda, FfrwyDri, wedi ailgymysgu Barti Ddu gan Bwncath a chân Lliwiau Lisa Jên. Swnio'n gymeriadau! #BBCradioCymru bbc.co.uk/sounds/play/live/bbc

  2. @www.bbc.co.uk.cymrufyw Gwrandawais i ar bytiau o hwn neithiwr ar Radio Cymru. Roeddwn wedi darllen ysgrif coffa iddo yn Barn eisoes, ond gwnaeth y rhaglen, a chlywed clip ohono'n disgrifio'i grefft, imi fod eisiau gweld ei waith - mae'n drawiadol iawn.
    welshart.net/exhibitions/287-i #BBCradioCymru

  3. RE: halo.nu/@theguardian_world_new

    Yn dilyn ymchwil i enwau sarhaus yn yr iaith fain, roedd Dr Guto (Prys?) yn westai ar y Post Prynhawn heddiw (47:30) yn trafod sarhau a rhegi'n Gymraeg. Dysgais mai 'minced oaths' yw ebychiadau fel "Iesgob", " Diawch" a Duwcs". Roedd yn gweld eisiau'r Rhegiadur, er nad oedd yn gwybod pwy oedd y tu cefn i'r wefan.
    bbc.co.uk/programmes/m002v6zn
    #bbcradioCymru #Cymraeg #dysguCymraeg

  4. Mae Talulah (yn lle Georgia Ruth) yn siarad efo Gwenifer Raymond ar #BBCRadioCymru rwan ac yn chwarae ei chaneuon. Mae'n wych. Cicio fy hun am beidio mynd i'w gweld yng Nghaerdydd yn ddiweddar. gweniferraymond.bandcamp.com/

  5. Newydd wrando ar raglen Rhys Mwyn ar ei fformat Hen Bethau Newydd, ble mae ei westeion,
    Aur Bleddyn a Dyfan Lewis, yn adolygu dau o albyms cynharaf Datblygu, 'Wyau' a 'Pyst'.
    bbc.co.uk/programmes/m002pc3z
    #Datblygu #bbcradiocymru #RhysMwyn #Cymraeg

  6. Ffaith diddorol ar raglen Ar y Marc y bore 'ma: diolch i fuddugoliaethau Met Caerdydd a Llandudno neithiwr yng Nghwpan Cymru, rownd derfynol 2026 fydd y cyntaf ers 2013 heb naill ai YSN neu Nomadiaid Cei Connah ynddi. #pêl-droed #CwpanCymruJD #JDWelshCup #MastodonFC #BBCradioCymru

  7. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru 6.7.2025

    Gwales, Moses Griffith, a dysgu Cymraeg i ffoaduriaid

    Ble yn union oedd Gwales? Elinor Gwynn sydd wedi bod yn ymchwilio.

    Doniau'r artist Moses Griffith fu'n gwmni i Thomas Pennant ar ei alldeithiau ymchwil yw pwnc Goronwy Wynne.

    A Gwennan Higham sy'n rhannu hanes personol ei theulu wrth drafod ei hymchwil ar ddysgu Cymraeg i ffoaduriaid.
    bbc.co.uk/programmes/m002fgg6

    3 o ddyddiau ar ôl i wrando

    #Cymraeg #BBCRadioCymru #DysguCymraeg #hanes

  8. Gwnes i wrando ar raglen Beti a'i Phobol neithiwr. Roedd hi'n siarad â Marcus Whitfield.

    "Mae Marcus yn siaradwr newydd sydd mor frwd dros yr iaith nes iddo fynd ati i agor canolfan yn Llanbedr Pont Steffan i ddod â dysgwyr at ei gilydd i ymarfer yr iaith, a chodi eu hyder.
    ...
    Mae'n dod yn wreiddiol o Fwcle yn Sir Y Fflint, ond mae o bellach yn byw yn swydd Caint, ac mae ganddo sawl dosbarth dysgu Cymraeg yn Lloegr."
    bbc.co.uk/sounds/play/m002krff

    #DysguCymraeg #BBCRadioCymru #RadioCymru

  9. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru 6.4.2025

    Bob Morris sy’n rhoi hanes Eisteddfod Fawr Llangollen 1858, gan graffu ar wirionedd y digwyddiad hwnnw a achosodd gymaint o drafferth yn ei gyfnod.

    Mae Meleri Wyn Davies yn trafod ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth sy’n deyrnged i’r merched yn ei theulu, ac i fyd busnes yr awn wrth i Heledd Bebb rannu ei hoff gerdd.

    10 o ddyddiau ar ôl i wrando
    bbc.co.uk/programmes/m0029qfm
    #Cymraeg #Hanes #Eisteddfod #Llangollen #BBCRadioCymru

  10. Yn mwynhau clywed caneuon Cymraeg newydd (i mi ta beth), un ar ôl y llall ar raglen Huw Stephens #BBCRadioCymru jest rŵan, gan gynnwys rhai gan Chwaer Fawr a Sywel Nyw.
    bbc.co.uk/sounds/play/live/bbc

  11. @barnettlg Croeso. Pa raglenni #bbcradiocymru wyt ti'n gwrando arnyn nhw? Wyt ti'n ddigon hen i gofio Street Fighter 2? Chwaraeais y gêm yn erbyn fy merch ar beiriant arcêd (am ddim) ym mar Fox and Owl yn Lyme Regis yr wythnos diwethaf.

  12. Yn mwynhau dewis caneuon Hedydd Ioan sy'n cyflwyno rhaglen Georgia Ruth heno. Newydd glywed Llwydrwydd gan Tristwch y Fenywod. #bbcradiocymru
    bbc.co.uk/sounds/play/live/bbc

  13. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru 2.2.2025

    #Patagonia, arloesi a cherddi

    Graham Edwards sy'n trafod hanes Richard Jones Berwyn, ymfudwr arbennig o weithgar a phrysur aeth i Batagonia.

    Roedd Mary Dilys Glynne wedi arloesi mewn dau faes sef pla mewn planhigion a dringo mynyddoedd - Shan Robinson sydd wedi astudio ei bywyd.

    Ac mae'r Prifardd Dafydd John Pritchard wedi cyhoeddi casgliad o gerddi cynnil dan y teitl 'deud llai'.

    bbc.co.uk/programmes/m0027jfq
    #Cymraeg #BBCRadioCymru #hanes #YWladfa

  14. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru 15.12.2024

    #Ffotograffiaeth a gêm fwrdd

    Mae'r ffotograffydd Marian Delyth yn arddangos gwerth hanner can mlynedd o luniau ac mae Dei yn trafod yr arddangosfa yn ei chartref ym Mlaenplwyf.

    Gêm fwrdd am hanes Owain Glyn Dŵr yw pwnc Geraint Thomas ac mae o hefyd yn dewis ei hoff gerdd.

    4 o ddyddiau ar ôl i wrando
    #Cymraeg #BBCRadioCymru #GemauBwrdd
    bbc.co.uk/programmes/m0026178

  15. Hoffi #hanes a #natur? Gwrandewch ar gyfres 'Iolo Williams - Sarn Helen' ar #RadioCymru. Mae Iolo yn #cerdded rhannau o'r ffordd Rufeinig gyda haneswyr a naturiaethwyr. Brysiwch, mae'r bennod gyntaf ar fin diflannu.
    bbc.co.uk/programmes/m0025bm1

    #bbcRadioCymru #Cymraeg

  16. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru 1.12.2024

    Arddangosfa gelf yn y Llyfrgell Genedlaethol

    Mae Dei yn ymweld ag arddangosfa Peter Lord yn y Llyfrgell Genedlaethol - 'Dim Celf Gymreig' ac yn trafod hoff lyfrau Gaynor Morgan Rees yn ei chartref yn Nyffryn Clwyd.
    bbc.co.uk/programmes/m0025kb9

    15 o ddyddiau ar ôl i wrando
    #Cymraeg #BBCRadioCymru #Celf #LlyfrgellGenedlaethol

  17. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru 24.11.2024

    #CanuGwerin #yCymoedd
    Mae Menna Thomas wedi bod yn tyrchu drwy archif Meredydd Evans a Phyllis Kinney ar drywydd caneuon gwerin y Cymoedd.

    Hanes yr Iddewon yng Nghymru a hanes llafar yw pynciau Cai Parry Jones, ac mae o'n dewis ei hoff gerdd. #JewishHistory

    Trafod dylanwad Annie Cwrt Mawr ar ein canu gwerin wna E Wyn James.

    9 o ddyddiau ar ôl i wrando
    bbc.co.uk/programmes/m0025bm3
    #Cymraeg #BBCRadioCymru

  18. @ApAlun Nid podlediad, ond rhaglen #BBCRadioCymru ar BBC Sounds sy'n trafod dy bynciau di ydi rhaglen Dei Tomos. Maen nhw'n diflannu ar ôl 28 diwrnod yn anffodus, ond os gwasgi di ar yr hashnod #DeiTomos, galli di weld beth oedd testun hen raglenni.
    bbc.co.uk/programmes/b007rkss

  19. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru
    27.10.2024

    Mathemategydd, Opera Gymraeg ac Owain Glyn Dŵr

    Y mathemategydd a'r seryddwr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd yn dwyn yr enw barddol Arfonwyson yw pwnc Deri Tomos.

    Elain Rhys Jones sy'n adrodd #hanes yr unig opera Gymraeg gan fenyw, sef 'Y Parlwr' gan Grace Williams tra bod Jon Gower yn trafod nofel epig John Cowper Powys - 'Owen Glendower'.

    bbc.co.uk/programmes/m0024d5d

    #Cymraeg #BBCRadioCymru

  20. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru
    6.10.2024

    Nofel, darlith a cherdd

    Mae Dei yn sgwrsio gyda'r hanesydd Bob Morris am ei nofel gyntaf; Jane Aaron sy'n rhoi sylw i un o ddisgyblion Crannogwen sef Elen Hughes; a Nia Gwyndaf sy'n dewis hoff gerdd mewn ymateb i golli ei gŵr mewn damwain.

    bbc.co.uk/programmes/m0023nsg

    #Cymraeg #BBCRadioCymru

  21. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru
    15.9.2024

    Aelodau benywaidd Cynulliad a #Senedd Cymru, y Methodistiaid cynnar a cherdd am hiraeth

    Trafod y casgliad o hanesion aelodau benywaidd Cynulliad a #SeneddCymru wna Catrin Edwards a Nerys Evans tra bod Eryn White yn sgwrsio am ddyddiau cynnar y Methodistiaid a'r her oedd yn eu hwynebu i adael y fam Eglwys. Cerdd am hiraeth yw dewis Osian Gwynn o'i hoff ddarn o farddoniaeth.

    bbc.co.uk/programmes/m0022z08

    #Cymraeg
    #BBCRadioCymru

  22. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru
    8.9.2024

    Dwyieithrwydd yn Quebec a Chymru a Chymraes o Landudno a'i heffaith ar Utah.

    Mae Elin Arfon yn arbenigo mewn polisiau sy'n ymwneud â dwyieithrwydd ac mae hi'n sgwrsio gyda Dei am ei phrofiadau yn #Quebec ac yn dewis ei hoff gerdd.

    Hanes Cymraes o Landudno - Martha Hughes Cannon - a'i dylanwad ar dalaith #Utah yw pwnc Wil Aaron.

    bbc.co.uk/programmes/m0022r4v

    #Cymraeg #BBCRadioCymru #Llandudno

  23. Clywais 'Winnie Bago' gan Llwyd ar #BBCRadioCymru heddiw, cân fach neis nad oeddwn wedi gwrando arni ers blynyddoedd. Mae o'r albwm aml-gyfrannog 'Y Gwir Yn Erbyn Y Byd'. Dwi'n meddwl bod y CD yn y tŷ rhywle, ond dydy o ddim ar Deezer na Spotify.

    discogs.com/release/2631450-Va

  24. Richard Wyn Jones yn ddiddorol bore 'ma ar #BBCRadioCymru #DrosFrecwast - yn son am wendid mandad #VaughanGething gyda chanlyniad mor agos er gwaetha'r rhodd mawr y cafodd e.

    #gwleidyddiaeth #Llafur #Senedd

  25. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru
    3.3.2024

    Hen emynau a llongddrylliad
    Yn gwmni i Dei mae Lleuwen Steffan sydd yn trafod ei thaith o gwmpas capeli Cymru yn atgyfodi rhai o'n hen emynau.

    Mae Iwan Rhys wedi cofnodi ei hanes yn addasu i newid byd a dod yn rhan o deulu newydd tra bod Alwyn Harding Jones yn sgwrsio am ei daid a'i achubiaeth wedi llongddrylliad ym Môr y De
    bbc.co.uk/programmes/m001wyk6
    #Cymraeg #BBCRadioCymru

  26. Rhaglen #DeiTomos ar #RadioCymru 4.2.2024

    Cyfrol o gerddi cignoeth gan Gruffudd Owen
    Yn gwmni i Dei mae Gruffudd Owen, sy'n trafod ei gyfrol o gerddi newydd 'Mymryn Rhyddid'.

    Effaith y diwydiant glo cynnar ar Gymru a Chanada sy'n cael sylw gan Jane Aaron a Gethin Matthews: Beirdd y pyllau glo gan Jane, a'r Cymry yn Nanaimo ar Ynys Vancouver gan Gethin.
    bbc.co.uk/programmes/m001w0wg
    #Cymraeg #BBCRadioCymru

  27. Beth mae pawb yn meddwl am #BBCRadioCymru ?

    Yn bersonol dw'n mwynhau Dros Brecwast a Dros Ginio. Mae Caryl yn yn nos yn wych.

    Hoffwn i weld rhaglen/podlediad gwleidyddol. Dwi'n gwybod bod gwleidyddiaeth yn rhan o nifer o raglenni ond byddai hi'n wych i gael rhywbeth mwy fel Sunday Supplement neu Newscast yn y Gymraeg.

    bbc.co.uk/cymrufyw/68165293

    #radio #cymru #radiocymru #cyfryngau #Cymraeg

Share on Mastodon

Enter the server where you have an account.